{"id":2972,"date":"2024-06-24T14:19:50","date_gmt":"2024-06-24T13:19:50","guid":{"rendered":"https:\/\/crefftmedia.com\/fideos-astudiaeth-achos\/"},"modified":"2024-12-02T11:20:41","modified_gmt":"2024-12-02T11:20:41","slug":"fideos-astudiaeth-achos","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/fideos-astudiaeth-achos\/","title":{"rendered":"Fideos Astudiaeth Achos"},"content":{"rendered":"<div class=\"fusion-fullwidth fullwidth-box fusion-builder-row-1 fusion-flex-container nonhundred-percent-fullwidth non-hundred-percent-height-scrolling\" style=\"--awb-border-radius-top-left:0px;--awb-border-radius-top-right:0px;--awb-border-radius-bottom-right:0px;--awb-border-radius-bottom-left:0px;--awb-padding-right-small:20px;--awb-padding-left-small:20px;--awb-flex-wrap:wrap;\" ><div class=\"fusion-builder-row fusion-row fusion-flex-align-items-flex-start fusion-flex-content-wrap\" style=\"max-width:1404px;margin-left: calc(-4% \/ 2 );margin-right: calc(-4% \/ 2 );\"><div class=\"fusion-layout-column fusion_builder_column fusion-builder-column-0 fusion_builder_column_1_1 1_1 fusion-flex-column fusion-animated\" style=\"--awb-bg-blend:overlay;--awb-bg-size:cover;--awb-width-large:100%;--awb-margin-top-large:0px;--awb-spacing-right-large:1.92%;--awb-margin-bottom-large:0px;--awb-spacing-left-large:1.92%;--awb-width-medium:100%;--awb-spacing-right-medium:1.92%;--awb-spacing-left-medium:1.92%;--awb-width-small:100%;--awb-spacing-right-small:1.92%;--awb-spacing-left-small:1.92%;\" data-animationType=\"fadeInUp\" data-animationDuration=\"1.0\" data-animationOffset=\"top-into-view\"><div class=\"fusion-column-wrapper fusion-flex-justify-content-flex-start fusion-content-layout-column\"><div class=\"fusion-text fusion-text-1\"><p><span style=\"font-weight: 400;\">Am dros 10 mlynedd, mae Crefft Media wedi arbenigo mewn cynhyrchu fideos astudiaeth achos sy\u2019n mynd y tu hwnt i fideo prosiect arferol. Rydym yn canolbwyntio ar ddal hanfod, thema ac effaith pob stori, gan grefftio fideos sy\u2019n hysbysu, yn addysgu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd yn y sectorau cyhoeddus a thrydydd sector. Mae ein fideos astudiaeth achos wedi\u2019u dylunio i helpu chi i gyfathrebu buddion eich prosiect i fuddiolwyr, cyllidwyr a\u2019r cyhoedd ehangach mewn ffordd glir, gryno ac i\u2019w chofio.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Rydym yn deall bod gan bob prosiect gyfyngiadau cyllidebol unigryw, ac rydym yn gweithio gyda chi i sicrhau\u2019r effaith fwyaf posibl heb gostau diangen. Trwy symleiddio negeseuon cymhleth yn naratif clir a chydlynol, rydym yn sicrhau bod eich fideo\u2019n taro deuddeg gyda\u2019r gynulleidfa. Mae ein cryfder yn gorwedd yn ein gallu i greu llif naratif esmwyth, yn enwedig yn y ffordd rydym yn torri ac yn trefnu cyfweliadau, gan sicrhau bod pob darn i\u2019r camera yn cydweddu\u2019n berffaith gyda\u2019r stori.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Fel siaradwyr Cymraeg, rydym yn arbenigo mewn creu cynnwys dwyieithog sy\u2019n taro deuddeg gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan sicrhau bod pob prosiect yn cyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffordd ddilys a hygyrch. Mae\u2019r dull hwn yn galluogi sefydliadau i gysylltu\u2019n ystyrlon \u00e2 chymunedau lleol ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae ein dull hefyd yn hyblyg ac yn addasol. Rydym yn ffilmio gyda phersbectif sinematig, gan greu delweddau trawiadol sy\u2019n cyfoethogi pob stori\u2014 ond rydym yn gwneud hyn yn effeithlon, gan sicrhau cyn lleied \u00e2 phosibl o darfu ar yr hyn rydyn yn ffilmio. Yn aml mae aros yn anamlwg gan osgoi gor-gyfarwyddo yn helpu cadw\u2019r awyrgylch yn hamddenol i gleientiaid i deimlo\u2019n gyffyrddus, hyd yn oed pan maent yn newydd i fod o flaen y camera. I gleientiaid sydd heb brofiad na hyder hefo creu fideo, rydym yn fwy na hapus i gymryd y blaen gyda chyfweliadau gan gynnal cadw\u2019r broses yn gyfforddus, naturiol ac yn syml.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae rhai o&#8217;n prosiectau diweddar yn cynnwys fideos ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys M\u00f4n am<\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Taliadau Uniongyrchol<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">, Mon Actif\u2019s <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Nifty 60s<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">, ac arloesiadau Menter M\u00f4n fel <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Morlais<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\"> ac <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Afonydd Menai<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">. Mae llawer o\u2019n fideos o&#8217;r gorffennol yn dal i gael eu defnyddio heddiw i gefnogi a hyrwyddo prosiectau &#8211; rhywbeth sy&#8217;n tanlinellu\u2019r gwerth hirdymor maent yn medru ei gynnig.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os yw cyflwyno o flaen y camera\u2019n newydd i chi, mae ein gwasanaethau teleprompter yn cynnig cefnogaeth ychwanegol, gan sicrhau eich bod yn teimlo\u2019n hyderus ac yn naturiol ar y camera. Beth bynnag yw\u2019r pryder, rydym yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy\u2019n eich helpu i deimlo\u2019n gyfforddus ac i gynhyrchu fideo sy\u2019n dal eich gweledigaeth.<\/span><\/p>\n<p><br style=\"font-weight: 400;\"><br style=\"font-weight: 400;\"><\/p>\n<\/div><\/div><\/div><\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":2600,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2972","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2972","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2972"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2972\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2974,"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2972\/revisions\/2974"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2600"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/crefftmedia.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2972"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}