Mewn gweithle prysur, mae fideo yn arf pwerus ar gyfer cyfathrebu’n uniongyrchol, boed hynny i gysylltu â’ch tîm neu i ymgysylltu â buddiolwyr. Wedi’i leoli ar Ynys Môn, mae Crefft Media yn cefnogi sefydliadau ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, gan ddarparu fideos cyfathrebu corfforaethol wedi’u teilwra i’ch anghenion— boed hynny i ymgysylltu â staff, hysbysu cleientiaid, neu gryfhau eich neges brand.

Fideos Staff Mewnol

Mae cyfathrebu clir gyda’ch tîm yn allweddol i gryfhau dealltwriaeth a thryloywder. Mae ein fideos staff mewnol yn medru helpu chi i ymsefydlu, rhoi hyfforddiant, a diweddariadau cwmni, gan sicrhau bod timau’n parhau’n i uno gydag amcanion a gwerthoedd eich cwmni ac mewn fformat deniadol a diddorol.

Fideos Cyfathrebu Allanol

Os ydych eisio rhannu diweddariadau’r cwmni gyda chleientiaid a buddsoddwyr neu’n arddangos eich effaith gymunedol, mae fideos yn ffordd effeithiol o greu argraff gadarn y tu allan i’ch sefydliad. Mae ein tîm yn cydweithio â chi i greu cynnwys clir a deniadol sy’n cyfathrebu’r neges iawn i’ch cynulleidfa.

Mae Crefft Media wedi ennill enw da fel partner dibynadwy, gan weithio gyda chleientiaid diogelwch uchel megis Magnox ar safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd. Ar gyfer prosiectau sy’n wynebu amserlen dynn, rydym yn cynnig amseroedd troi cyflym, gan ddarparu fideos wedi’u golygu’n llawn o fewn yr un diwrnod pan fo angen.

Os yw cyflwyno ar y camera yn newydd i chi neu’ch tîm, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau teleprompter i sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus ac yn barod.