Fideo Drôn

Mae ein fideo drôn yn dal fideo o ansawdd uchel gyda safbwynt unigryw, gan gynnig golygfeydd eang a dramatig na ellir eu cyflawni gyda chamerâu arferol. Yn berffaith ar gyfer arddangos eiddo, astudiaethau achos, cofnodi digwyddiadau, a ffilmiau hyrwyddo, mae’r ergydion awyrol hyn yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i’ch stori.

Rydym yn arbenigo mewn fideo drôn mewnol ac allanol, gan gyfuno ergydion awyrol arferol gyda drôn arbennig ar gyfer tu mewn i adeiladau. Yn ogystal, mae ein gwasanaethau modelu 3D awyrol yn defnyddio meddalwedd proffesiynol i greu delweddau 3D rhyngweithiol, sy’n berffaith ar gyfer arolygu neu ychwanegu delweddau deinamig i’ch gwefan.

Mae ein gweithredwyr drôn trwyddedig yn cydymffurfio â phob safon diogelwch a rheoleiddiol, gan sicrhau canlyniadau saff o’r ansawdd uchaf gyn amharu cyn lleied â phosibl. Rydym yn teilwra pob hediad i weddu anghenion unigryw eich prosiect, boed yn dal tirweddau eang neu fanylion pensaernïol cymhleth. Gyda Crefft Media, mae eich gweledigaeth yn cael ei chodi’n llythrennol, gan eich galluogi i adrodd eich stori o safbwynt cwbl newydd.

Fideo Cyflymiad Amser

Mae ein fideos cyflymiad amser arbenigol yn dal gweithred dros gyfnodau hir, gan ei gyddwyso i mewn i ffilm ddeniadol sy’n berffaith ar gyfer dangos cynnydd prosiectau adeiladu neu newidiadau amgylcheddol dros amser. Gan ddefnyddio technegau o’r proffesiynol lefel darlledu, rydym yn creu nifer luniau statig o fanylder uchel drosodd ar ôl ei gilydd, gan gyflwyno symudiad hylifol i bob golygfa. O dracio sêr a phlaned ar draws awyr y nos, i ddogfennu taith prosiect o’r dechrau i’r diwedd, mae ein fideos cyflymiad amser yn ychwanegu elfen weledol bwerus i’ch prosiect.

Ymhlith ein cleientiaid bodlon yw Ecotricity, Magnox, Morlais, a Mona Lifting.