Meddwl Ymlaen
Yn Crefft Media, rydym yn credu mewn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol drwy drosglwyddo sgiliau a meithrin creadigrwydd. Yn ddiweddar, buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Meddwl Ymlaen a Barnardo’s Cymru i gyd-gynhyrchu ffilm gyda phobl ifanc dalentog ar draws Gwynedd a Môn. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys hyfforddiant ymarferol mewn gweithredu camera, cyflwyno, cyfweld, a golygu fideo. Cafodd y cyfranogwyr brofiad ymarferol a mentora, gan weithio gyda’n tîm o’r cam sgriptio cychwynnol hyd at weithdai golygu, gan orffen gydag achlysur dangos swyddogol a fynychwyd gan bartneriaid y sector. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i rymuso lleisiau ifanc ac annog datblygiad sgiliau o fewn ein cymunedau lleol.
TeliMôn
Bu Crefft Media yn ganolog i sefydlu, datblygu, a rhedeg TeliMôn, sianel cynnwys fideo lleol ar-alw ar gyfer Ynys Môn. Fe’i hariannwyd yn wreiddiol gan LEADER drwy Menter Môn, ac rydym yn falch o fod wedi llwyddo i dendro i arwain y prosiect peilot cymunedol hwn, gan sefydlu grŵp llywio a chydlynu tîm o weithwyr llawrydd i gynhyrchu cynnwys rheolaidd. Yn ddiweddarach, daeth TeliMôn yn rhan o S4C Lleol, prosiect arloesol gyda S4C i greu cynnwys arloesol ac ymgysylltiol ar gyfer y sianel. Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ein gallu i ddatblygu mentrau cyfryngau deinamig sy’n ateb anghenion cymunedau lleol a chynulleidfaoedd ehangach.
Hyfforddiant wedi’i Deilwra a Chefnogaeth i Llawryddion
Rydym yn cynnig gweithdai hyfforddi wedi’u teilwra a sesiynau un-i-un, wedi’u cynllunio i weddu i unrhyw lefel o brofiad. Os ydych am greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol, dysgu gweithredu camera, neu olygu gan ddefnyddio meddalwedd fel Final Cut Pro, rydym yn dylunio ein hyfforddiant i fod yn ymarferol, yn ddifyr, ac yn berthnasol yn uniongyrchol i’ch anghenion. Y tu hwnt i hyfforddiant, rydym yn darparu profiad gwaith a chyfleoedd proffesiynol, gan gefnogi gweithwyr llawrydd newydd wrth iddynt sefydlu eu hunain yn y diwydiant cyfryngau.