Cynyddwch effaith eich digwyddiad gyda gwasanaethau arbenigol Crefft Media.

Rydym yn cynnig ystod o becynnau, gan gynnwys ffrydio byw a gwasanaethau recordio llawn, yn ogystal â fideos uchafbwyntiau gyda chyflawniad cyflym, gan roi opsiynau hyblyg ar gyfer pob anghenion fideo i’ch digwyddiad.

Ffrydio Byw a RecordioLive Streaming and Recording

Mae ein darllediadau o ansawdd uchel yn caniatáu i’ch digwyddiad gyrraedd cynulleidfa ehangach, ble bynnag y maent. O gynadleddau corfforaethol a seminarau addysgol i ddigwyddiadau cymunedol a dathliadau preifat, mae ein tîm yn sicrhau bod pob eiliad bwysig yn cael ei dal gyda sain a llun clir a cyson.

Mae ein technegwyr yn delio hefo pob agwedd dechnegol— o’r gosodiad i’r ffrydio byw— gan ddefnyddio offer safon darlledu sydd gennym yn fewnol. Rydym yn darparu golygu byw, onglau aml-gamera, a chamerâu rheoledig o bell sydd ddim yn amharu ar y gynulleidfa. Ar ôl y digwyddiad, rydym yn cynnig golygu ôl-gynhyrchu, gan greu recordiad esmwyth sy’n berffaith i’w gadw neu ei rhyddhau lawr y lein. Gyda Crefft Media, gall eich digwyddiad gael ei fwynhau a’i ail-ymweld gan y rhai na allent fod yn bresennol.

Fideos Uchafbwyntiau Digwyddiad

Gall cynllunio digwyddiad gymryd wythnosau, ond mae’n gallu bod drosodd mewn un diwrnod a buan wedi ei anghofio. Fodd bynnag, mae fideo uchafbwyntiau yn cadw’r digwyddiad effaith yn fyw. Mae’r fideos cryno hyn yn dal y momentau gorau, gan gyfuno uchafbwyntiau cyflwyniadau gyda chyfweliadau byr gan fynychwyr a threfnwyr. Yn ddelfrydol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu fel tystiolaeth i gyllidwyr, mae’r fideos hyn yn helpu i sicrhau’r gwerth mwyaf o’ch ymdrechion a’ch cynllunio.

Pa bynnag becyn a ddewiswch, mae Crefft Media yn sicrhau y bydd eich digwyddiad nid yn unig yn cael ei gofio ond hefyd yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Mae ein cleientiaid, gan gynnwys Magnox, Coleg Menai, Prifysgol Bangor, Eisteddfod Môn, a Morlais, wedi ymddiried ynom i ddal eu digwyddiadau gyda gofal a chywirdeb a chreu cynnwys atyniadol.