Yn Crefft Media, rydym yn deall bod yr hud yn aml yn digwydd yn yr ystafell olygu. Mae ein gwasanaeth golygu fideo proffesiynol yn trawsnewid fideo gwreiddiol yn naratif pwrpasol a greddfol sy’n atynnu a dal sylw gwylwyr o’r dechrau i’r diwedd.
Gan ein bod yn cynllunio’ch prosiect gyda chi o’r cychwyn, mae’r broses olygu’n troi’n broses debyg i roi jig-so at ei gilydd— gyda dealltwriaeth glir o’r weledigaeth derfynol yn arwain pob penderfyniad. Mae pob clip a golygfa yn chwarae ei rhan, ac mae ei hamseriad, trefn, cerddoriaeth, a graddio lliwiau’n dylanwadu ar naratif eich prosiect.
Mae ein golygydd medrus yn defnyddio meddalwedd proffesiynol a thechnegau arbenigol, a ddatblygwyd dros flynyddoedd o brofiad, i adeiladu pob golygfa mewn ffordd sy’n cynyddu effaith emosiynol y stori. Boed yn bost cyfryngau cymdeithasol 30 eiliad neu ffilm ddogfen 30 munud, mae pob ffrâm gyda phwrpas yn Crefft Media.
Fel tîm creadigol, a pob un ohonom gyda phrofiad golygu, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i adolygu a gwella pob prosiect cyn cwblhau’r drafft cyntaf. Mae’r broses gydweithredol hon yn darparu amrywiaeth o safbwyntiau proffesiynol, gan sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn rhagori ar eich disgwyliadau wrth ganiatáu i ni addasu ar gyfer unrhyw brosiectau sydd ar frys.
Ynghyd â golygu fideo, rydym yn ychwanegu is-deitlau yn ddidrafferth, recordio trosleisiad, cynhyrchu graffeg symudol, animeiddiadau deinamig, ac yn cymhwyso effeithiau arbennig eraill yn ôl yr angen.
Gyda Crefft Media, nid yw eich prosiectau’n cael eu gweld yn unig— maent yn cael eu cofio, gan adael argraff bwerus ar eich cynulleidfa.