Am dros 10 mlynedd, mae Crefft Media wedi arbenigo mewn cynhyrchu fideos astudiaeth achos sy’n mynd y tu hwnt i fideo prosiect arferol. Rydym yn canolbwyntio ar ddal hanfod, thema ac effaith pob stori, gan grefftio fideos sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd yn y sectorau cyhoeddus a thrydydd sector. Mae ein fideos astudiaeth achos wedi’u dylunio i helpu chi i gyfathrebu buddion eich prosiect i fuddiolwyr, cyllidwyr a’r cyhoedd ehangach mewn ffordd glir, gryno ac i’w chofio.

Rydym yn deall bod gan bob prosiect gyfyngiadau cyllidebol unigryw, ac rydym yn gweithio gyda chi i sicrhau’r effaith fwyaf posibl heb gostau diangen. Trwy symleiddio negeseuon cymhleth yn naratif clir a chydlynol, rydym yn sicrhau bod eich fideo’n taro deuddeg gyda’r gynulleidfa. Mae ein cryfder yn gorwedd yn ein gallu i greu llif naratif esmwyth, yn enwedig yn y ffordd rydym yn torri ac yn trefnu cyfweliadau, gan sicrhau bod pob darn i’r camera yn cydweddu’n berffaith gyda’r stori.

Fel siaradwyr Cymraeg, rydym yn arbenigo mewn creu cynnwys dwyieithog sy’n taro deuddeg gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan sicrhau bod pob prosiect yn cyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffordd ddilys a hygyrch. Mae’r dull hwn yn galluogi sefydliadau i gysylltu’n ystyrlon â chymunedau lleol ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.

Mae ein dull hefyd yn hyblyg ac yn addasol. Rydym yn ffilmio gyda phersbectif sinematig, gan greu delweddau trawiadol sy’n cyfoethogi pob stori— ond rydym yn gwneud hyn yn effeithlon, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar yr hyn rydyn yn ffilmio. Yn aml mae aros yn anamlwg gan osgoi gor-gyfarwyddo yn helpu cadw’r awyrgylch yn hamddenol i gleientiaid i deimlo’n gyffyrddus, hyd yn oed pan maent yn newydd i fod o flaen y camera. I gleientiaid sydd heb brofiad na hyder hefo creu fideo, rydym yn fwy na hapus i gymryd y blaen gyda chyfweliadau gan gynnal cadw’r broses yn gyfforddus, naturiol ac yn syml.

Mae rhai o’n prosiectau diweddar yn cynnwys fideos ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn amTaliadau Uniongyrchol, Mon Actif’s Nifty 60s, ac arloesiadau Menter Môn fel Morlais ac Afonydd Menai. Mae llawer o’n fideos o’r gorffennol yn dal i gael eu defnyddio heddiw i gefnogi a hyrwyddo prosiectau – rhywbeth sy’n tanlinellu’r gwerth hirdymor maent yn medru ei gynnig.

Os yw cyflwyno o flaen y camera’n newydd i chi, mae ein gwasanaethau teleprompter yn cynnig cefnogaeth ychwanegol, gan sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn naturiol ar y camera. Beth bynnag yw’r pryder, rydym yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy’n eich helpu i deimlo’n gyfforddus ac i gynhyrchu fideo sy’n dal eich gweledigaeth.